
Metro De Cymru
Mae Metro De Cymru yn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl deithio ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan drawsnewid y gwasanaethau rheilffyrdd a bws y...
Bydd y Metro yn ei gwneud hi'n haws i deithio, boed ar y trên, y bws, y beic neu ar droed. Bydd yn ei gwneud hi'n haws i fynd i’r gwaith neu’r ysgol, i gyrraedd apwyntiad yn yr ysbyty neu i grwydro gyda’r nos a thros y penwythnos gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd y Metro yn rhwydwaith trafnidiaeth o'r radd flaenaf, a bydd yn trawsnewid bywydau pobl yng Nghymru a’r Gororau, gan wella’r mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill.
Bydd y Metro yn trawsnewid gobeithion economaidd Cymru hefyd.
Pa fanteision y gallwch chi ddisgwyl eu cael?
Bydd gwasanaethau rheilffordd yn rhan allweddol o'r Metro, a gall y cwsmeriaid ddisgwyl gwasanaeth modern lle gallwch chi gyrraedd a mynd ac sy’n cynnig:
O fis Rhagfyr 2022 ymlaen, byddwn ni'n cyflwyno trenau newydd i ddarparu mynediad gwastad ar gyfer cwsmeriaid.
Tri chynllun Metro
Rydyn ni wrthi'n gweithio ar dri chynllun Metro yng Nghymru a’r Gororau:
Beth sy'n digwydd gyda’r Metro nawr?
Mae pob un o'r cynlluniau Metro rydyn ni'n gweithio arnynt ar wahanol gamau o’u datblygiad.
Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar Fetro De Cymru a gallwch chi ddarllen ein newyddion diweddaraf yn y fan yma.